Support
 
Phone Get Quote
 
Support
 
US: +1 888 720 9500
US: +1 888 791 1189
Intl: +1 925 924 9500
Aus: +1 800 631 268
UK: 0800 028 6590
CN: +86 400 660 8680

Direct Inward Dialing: +1 408 916 9892

Auditing

Archwilio Cydymffurfiad TG Amser Real

Rhaid i sefydliadau sydd wedi eu llywodraethu gan gydymffurfiad nawr ddibynnu ar systemau monitro gwybodaeth awtomataidd fel ADAudit Plus. Mae’r systemau hyn yn sicrhau rheolaeth diogelwch gwybodaeth effeithiol, monitro parhaus a thrylwyr, a nifer o adroddiadau archwilio gyda’r cyfrinachedd, cywirdeb a chyfanrwydd mwyaf. Mae’r meddalwedd hwn yn olrhain gweithredoedd defnyddwyr a mynediad data / addasiadau gofynnol i fodloni amrywiol gydymffurfiadau, fel SOX, HIPAA, PCI-DSS, FISMA a GLBA.

Mae ADAudit Plus yn cynnig monitro 24x7, hysbysiadau e-bost ac adroddiadau wedi ffurfweddu hawdd i'w gweld. Gyda dros 200+ o adroddiadau i weld y newidiadau, nid oes ffordd haws o gydymffurfio na hyn.

Archwiliad Cydymffurfiad SOX Amser Real

Mae Deddf Sarbanes-Oxley 2002 yn sefydlu’r safonau caeth ar gyfer pob cwmni sy'n masnachu'n gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau. Nid yw'n berthnasol i gwmnïau preifat. Caiff y ddeddf ei gweinyddu gan y Comisiwn Gwarannau a Chyfnewid (SEC), sy'n delio gyda chydymffurfiad, rheolau a gofynion. Mae ADAudit Plus yn sicrhau system cydymffurfio SOX 302 / 404 i sicrhau diogelwch rhwydweithiau corfforaethol, monitro rhwydwaith parhaus gyda hysbysiadau/adroddiadau ar system wedi / heb awdurdod, a mynediad i ddata ar gyfer cywirdeb data.

Rhai Adroddiadau Archwiliad Cydymffurfiad SOX

Gweithgaredd Mewngofnodi Defnyddiwr Diweddar | Methiant i Fewngofnodi | Gweithgaredd Gwasanaethau Terfynell | Hyd Mewngofnodi | Newidiadau Polisi Parth | Hanes Mewngofnodi | Rheoli Defnyddwyr | Rheoli Grŵp | Rheoli Cyfrifiaduron | Rheoli OU | Rheoli GPO | Gweithredoedd Defnyddiwr Gweinyddol | Pob Newid Ffeil neu Ffolder

Archwiliad Cydymffurfiad HIPAA Amser Real

Mae’r HIPAA, Deddf Cludadwyedd ac Atebolrwydd Yswiriant Iechyd 1996, yn gyfraith ffederal sydd wedi ei haddasu i’r cod Refeniw Mewnol 1996. Cafodd ei chynllunio i wella cludadwyedd a pharhad cwmpas yswiriant iechyd yn y marchnadoedd grŵp ac unigol.

Cydymffurfiad Teitl –I HIPAA - Mae HIPAA yn amddiffyn sicrwydd yswiriant iechyd ar gyfer gweithwyr a’u teuluoedd pan fyddant yn newid neu golli swydd.

Cydymffurfiad Teitl-II HIPAA - Er mwyn i’r darpariaethau Symleiddio Gweinyddol (AS) fod yn weithredol, rhaid sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer trafodion gofal Iechyd electronig a dynodwyd cenedlaethol ar gyfer darparwyr, cynlluniau yswiriant iechyd a chyflogwyr yn delio â diogelwch a phreifatrwydd data iechyd.

Rhai Adroddiadau Archwiliad Cydymffurfiad HIPAA

Pob Newid Ffeil neu Ffolder | Rheoli OU | Rheoli Cyfrifiaduron | Rheoli Grŵp | Rheoli Defnyddiwr | Hyd Mewngofnodi | Gweithgaredd Gwasanaethau Terfynell | Methiannau Mewngofnodi | Gweithgaredd Mewngofnodi Defnyddiwr Diweddar

Archwiliad Cydymffurfiad PCI-DSS Amser Real

Mae’r PCI DSS yn berthnasol i unrhyw endid sy'n storio, prosesu ac / neu drosglwyddo data deiliaid cardiau. Mae’n cwmpasu cydrannau system technegol a gweithredol a gynhwysir yn neu sydd wedi cysylltu i ddata deiliad cerdyn. Os yw'ch busnes yn derbyn neu brosesu cardiau talu, rhaid cydymffurfio gyda’r PCI DSS.

Rhai Adroddiadau Archwiliad Cydymffurfiad PCI-DSS

Gweithgaredd Mewngofnodi Defnyddiwr Diweddar | Methiannau Mewngofnodi | Gweithgaredd Gwasanaethau Terfynell | Hanes Mewngofnodi | Gweithredoedd Defnyddiwr Gweinyddwr | Pob Newid i Ffeil neu Ffolder | Hanes Mewngofnodi RADIUS (NPS) | Mynediad Darllen Llwyddiannus Ffeil | Newidiadau Caniatâd Ffolder | Newidiadau Gosodiadau Archwilio Ffolder

Archwiliad Cydymffurfiad FISMA Amser Real

Mae’r Ddeddf Diogelwch a Rheoli Gwybodaeth Ffederal (FISMA) yn gofyn i asiantaethau ffederal ddarparu diogelwch ar gyfer y gwybodaeth a gesglir neu a gynhelir gan neu ar ran yr asiantaeth; ac i'r systemau gwybodaeth a ddefnyddir neu a weithredir gan asiantaeth neu gan gontractwr i asiantaeth neu sefydliad arall ar ran asiantaeth.

Rhai Adroddiadau Archwiliad Cydymffurfiad FISMA

Gweithgaredd Gwasanaethau Terfynell | Methiannau Mewngofnodi Lleol | Hanes Mewngofnodi | Rheoli Grŵp | Rheoli Defnyddwyr | Gweithredoedd Defnyddiwr Gweinyddol | Rheoli Cyfrifiaduron | Rheoli OU | Pob Newid i Ffeiliau neu Ffolderi | Cais aflwyddiannus i Ysgrifennu Ffeil | Cais aflwyddiannus i Ddileu Ffeil

Archwiliad Cydymffurfiad GLBA Amser Real

Mae’r Ddeddf Gramm-Leach-Bliley, a elwir hefyd yn Ddeddf Moderneiddio Gwasanaethau Ariannol, yn gofyn i sefydliadau ariannol – cwmnïau sy'n cynnig cynnyrch neu wasanaethau ariannol i ddefnyddwyr fel benthyciadau, cyngor ariannol neu fuddsoddi neu yswiriant – i esbonio eu harferion rhannu gwybodaeth i gwsmeriaid ac i ddiogelu data sensitif. Mae'r ddeddf yn berthnasol i fenthycwyr morgais nad ydynt yn fanciau, gwerthuswyr eiddo tiriog, brocerwyr benthyciadau, rhaid cynghorwyr ariannol neu fuddsoddiad, casglwyr dyledion, paratowyr ffurflenni treth, banciau a darparwyr gwasanaethau setliad eiddo tiriog.

Rhai Adroddiadau Archwiliad Cydymffurfiad GLBA

Newidiadau Gosodiadau Archwilio Ffolder | Newidiadau Caniatâd Ffolder | Mynediad Darllen Ffeil Llwyddiannus | Pob Newid i Ffeiliau neu Ffolderi | Rheoli GPO | Rheoli Defnyddwyr | Rheoli Grŵp | Newidiadau Polisi Parth | Hyd Mewngofnodi | Methiannau Mewngofnodi Lleol | Gweithgaredd Gwasanaethau Terfynell

ADAudit Plus Trusted By