Wedi'i adeiladu'n bwrpasol ar gyfer ecosystemau Microsoft.

Mae ADManager Plus yn ddatrysiad ar y we ar gyfer holl anghenion rheoli AD, Office 365, Exchange, G Suite, a Skype ar gyfer Busnes/Lync, G Suite, ac Office 365. Mae’n symleiddio tasgau rheolaidd megis cyfarparu defnyddwyr, clirio cyfrifon segur, a rheoli NTFS a chaniatadau rhannu. Mae hefyd yn cynnwys dros 150 o adroddiadau wedi pecynnu, yn cynnwys adroddiadau ar gyfrifon defnyddwyr AD anweithredol neu wedi eu cloi, trwyddedau Office 365, ac amserau mewngofnodi diwethaf defnyddwyr, gydag opsiwn yn gynwysedig i gyflawni gweithredoedd rheoli yn syth o'r adroddiadau hyn. Mae’n cynnwys strwythur llif gwaith personol ar gyfer tocynnau a chydymffurfiad, ac yn awtomeiddio tasgau AD rheolaidd megis darparu a dileu darpariaeth. Mae ADManager Plus hefyd yn cynnwys apiau symudol iOS ac Android.

  • Rheolaeth Active Directory
  • Mae Rheoli Active Directory (AD) yn dod yn syml a diymdrech gyda nodweddion penodol ar gyfer tasgau rheolaidd fel creu cyfrifon defnyddwyr yn AD, Office 365, Exchange, G Suite a Skype ar gyfer Busnes/Lync ar y cyd; addasu cyfrifon defnyddwyr, grwpiau diogelwch a dosbarthu, cysylltiadau a chyfrifiaduron. Mae templedi darparu a dileu darpariaeth cyfrifon addasadwy, adweithiol yn troi creu ac addasu cyfrifon AD i weithredoedd cyflym, un cam, yn wahanol i offer lletchwith Microsoft fel ADUC a PowerShell.
  • Adrodd Active Directory
  • Mae llyfrgell adroddiadau bwrpasol ADManager Plus yn cynnwys dros 150 o adroddiadau sy'n estyn gwybodaeth fanwl am bob agwedd o AD gydag un clic o’r llygoden. Maent yn casglu data allweddol megis cyfrineiriau anweithredol, wedi darfod neu ddefnyddwyr sydd wedi eu hanalluogi; gwir amser mewngofnodi defnyddwyr, rhestr ddosbarthu a grwpiau diogelwch a’u haelodau, NTFS ac adroddiadau caniatâd rhannu, ac adroddiadau ar gydymffurfiad (SOX, HIPAA, PCI, ac ati). Mae hefyd wedi ei lwytho gyda threfnydd adroddiadau i greu ac e-bostio'r adroddiadau gofynnol i'r holl randdeiliaid ar adeg benodol.
  • Rheoli ac Adrodd Office 365
  • Mae ADManager Plus yn cynnig y fantais i weinyddwyr o reoli ac adrodd ar eu Office 365 yn y cwmwl a hefyd yr AD ar yr eiddo, o un consol unigol, gyda rhwyddineb. Mae’n cynnig gallu i greu cyfrifon Office 365 ar gyfer defnyddwyr tra’n creu eu cyfrifo AD, creu cyfrifon Office 365 ar gyfer defnyddwyr AD presennol, neilltuo neu ddiddymu trwyddedau mewn swmp; rheoli blychau derbyn defnyddwyr Exchange Online, blychau derbyn a rennir, blychau derbyn ystafelloedd, blychau derbyn offer, blychau derbyn cysylltiedig, a mwy.
  • Mae hefyd yn cynnig llyfrgell adroddiadau Office 365 sy'n galluogi adroddiadau ar bob defnyddiwr, rhai anweithredol, nad ydynt erioed wedi mewngofnodi, a defnyddwyr ActiveSync wedi eu galluogi, defnyddwyr trwyddedig a didrwydded, manylion trwydded, dosbarthiad a grwpiau diogelwch a’u haelodau, a blychau post a rennir. Gellir trefnu’r holl adroddiadau hyn i'w creu'n awtomatig a’u hanfon mewn e-bost i ddefnyddwyr lluosog ar wahanol fformatau megis CSV, PDF, HTML ac Excel.
  • Rheoli ac Adrodd G Suite
  • Mae ADManager Plus yn helpu gweinyddwyr i greu cyfrifon yn G Suite hefyd, ar yr un pryd â chreu cyfrifon defnyddwyr yn AD. Mae’n cynnig gallu i greu defnyddwyr yn G Suite yn unigol, yn swmp trwy fewngludo CSV, a hyd yn oed yn awtomatig. Mae hefyd yn cynnig adroddiadau pwrpasol i estyn manylion ynghylch pob defnyddiwr G Suite, defnyddwyr gweithredol a defnyddwyr G Suite sydd wedi eu hatal. Gall yr adroddiadau hyn gael eu cynhyrchu'n awtomatig hefyd ar yr adeg benodedig trwy’r trefnydd adroddiadau.
  • Llif Gwaith Active Directory Seiliedig ar Gymeradwyaeth
  • Mae llif gwaith yn helpu gweinyddwyr i symleiddio gweithrediad tasgau AD. Mae llif gwaith ar sawl lefel yn galluogi gweinyddwyr i osod gwahanol gamau fel cais, adolygu, cymeradwyo a gweithredu ar gyfer gweithredwyr AD. Trwy safoni’r broses o gyflawni tasgau AD, mae llif gwaith yn helpu gweinyddwyr i sicrhau cydymffurfiad â’r safonau TG gofynnol a pholisïau sefydliadol yn hawdd. Mae ganddo neilltuwr pwrpasol sy'n galluogi gweinyddwyr i osod rheolai i neilltuo ceisiadau yn awtomatig i dechnegwyr perthnasol, ac i anfon hysbysiadau e-bost ar statws ceisiadau AD i’r holl randdeiliaid. Mae llif gwaith hefyd yn helpu gweinyddwyr i sefydlu system reoli AD seiliedig ar docynnau.
  • Awtomeiddio Active Directory
  • Gall gweinyddwyr awtomeiddio tasg unigol AD megis ailosod cyfrineiriau, neu alluogi, analluogi a datgloi cyfrifon, rheoli trwyddedau Office 365, neu hyd yn oed drefn AS gyfan yn ymwneud â dilyniant o dasgau, i'w gweithredu ar ysbeidiau penodol, megis glanhau AD sy’n cynnwys lleoli defnyddwyr dangosol, eu hanalluogi, eu symud i uned gyfundrefnol (OU) ar wahân, a’u dileu. Ar wahân i weithrediad heb wallau, mae awtomeiddio heb wallau ADManager Plus yn helpu arbed amser ac ymdrech.
  • Adrodd a rheoli Skype ar gyfer Busnes/Lync
  • Ar wahân i AD, gall gweinyddwyr hefyd reoli ac adrodd ar eu hamgylchedd Skype ar gyfer Busnes/Lync trwy ddefnyddio ADManager Plus. Mae’n cynnig galluoedd i weinyddwyr i greu cyfrifon defnyddwyr ar gyfer Skype ar gyfer Busnes/Lync/LCS/OCS yn unigol neu mewn swmp, tra'n creu cyfrifon defnyddwyr yn AD. Yn ogystal, mae’n galluogi gweinyddwyr i alluogi, analluogi neu ddileu cyfrifon defnyddwyr, neilltuo, ail neilltuo neu ddileu’r polisïau sy'n gysylltiedig i ddefnyddwyr yn eu hamgylchedd Skype ar gyfer Busnes/Lync/LCS/OCS. Mae ADManager Plus hefyd yn cynnig adroddiadau wedi eu ffurfweddu i’ch helpu i gadw trywydd ar ddefnyddwyr Skype ar gyfer Busnes/Lync//LCS/OCS wedi eu galluogi neu analluogi yn eich sefydliad.
  • Integreiddiad
  • I symleiddio rheolaeth AD, mae ADManager Plus yn integreiddio gyda rhaglenni desg gymorth megis ServiceDesk Plus, ServiceNow a Zendesk i hwyluso rheolaeth o gyfrifon defnyddwyr AD un uniongyrchol o fewn yr offeryn desg gymorth, cronfeydd data megis Oracle ac MS SQL i greu cyfrifon defnyddwyr yn AD cyn gynted ag y bydd cofnod defnyddiwr newydd yn cael ei ychwanegu yn y gronfa ddata, a rhaglenni SIEM.
  • Dirprwyo Desg Gymorth Active Directory
  • Mae rôl ddiogel a dirprwyaeth seiliedig ar OU ADManager Plus yn galluogi gweinyddwyr i ddirprwyo tasgau AD yn ddiogel i helpu technegwyr desg gymorth, rhai nad ydynt yn yr adran TG neu hyd yn oed ddefnyddwyr anhyderus o ran technoleg. Gyda mynediad seiliedig ar broffil i nodweddion rheoli AD, mae’n sicrhau y bydd technegwyr yn cyflawni'r tasgau a ddirprwywyd yn unig, yn yr OUs neilltuedig, gan wneud y dirprwyo hwn yn gwbl ddiogel. Ni fydd angen i weinyddwyr wastraffu eu hamser mwyach yn cyflawni tasgau dinod megis ailosod cyfrineiriau a datgloi cyfrifon. Yn ogystal, gydag adroddiadau archwilio desg gymorth cynwysedig, mae’n hawdd cael llwybr archwilio o’r holl weithrediadau a gyflawnwyd gan dechnegwyr desg gymorth.
  • Rheoli ac Adrodd Gweinydd Microsoft Exchange
  • Mae ADManager Plus yn helpu gweinyddwyr i reoli fersiynau lluosog o’u hamgylcheddau Exchange (Exchange 2003, 2007, 2010, 2013 ac Exchange Online) yn ogystal ag arbed y drafferth iddynt o doglo rhwng consolau ac offer lluosog i reoli eu hamgylcheddau AD ac Exchange. Gall gweinyddwyr gyflawni tasgau rheoli Exchange fel creu, addasu a mudo blychau derbyn, rheoli hawliau blychau derbyn, neilltuo neu ddiddymu Polisïau Exchange ac ati ar gyfer defnyddwyr a grwpiau lluosog, creu a rheoli grwpiau dosbarthu a dosbarthu deinamig a mwy. Gellir hefyd dirprwyo tasgau penodol i Exchange i dechnegwyr desg gymorth.
  • Gydag adroddiadau syth allan o’r blwch penodol i Exchange Server, mae ADManager Plus yn gwneud adroddiadau Exchange yn ddidrafferth ac yn weithgaredd rhyngwyneb defnyddiwr llwyr.. Mae llyfrgell adroddiadau Exchange yn cynnwys adroddiadau ar ddefnyddwyr gyda blwch post wedi ei alluogi, rhestr ddosbarthu ac aelodau, grwpiau post wedi galluogi, defnyddwyr sydd ag OMA/OWA/ActiveSync wedi ei alluogi neu analluogi, a mwy. Gall yr holl adroddiadau hyn hefyd gael eu creu'n awtomatig a’u hanfon mewn e-bost i ddefnyddwyr lluosog ar wahanol fformatau fel XLS, PDF, HTML a CSV.
  • Apiau Symudol iOS ac Android
  • Mae ADManager Plus yn cynnig apiau symudol iOS ac Android i helpu gweinyddwyr a thechnegwyr AD i greu cyfrifon defnyddwyr AD, ailosod cyfrineiriau defnyddwyr, galluogi, analluogi a dileu cyfrifon defnyddwyr a chyfrifiadurol, ac ailosod cyfrifiaduron, o unrhyw le, hyd yn oed pan fyddant yn symud.
  • Gyda chymaint o nodweddion ar gyfer rheoli ac adrodd ar amgylcheddau Active Directory, Office 365, Exchange, G Suite, a Skype ar gyfer Busnes/Lync, o un consol, mae ADManager Plus yn parhau i fod yn gyfaill da i weinyddwyr, yn fyd eang, mewn sefydliadau o bob maint a llun!

ADManager Plus Trusted By